Rydym wedi ysgrifennu yn ddiweddar am gyfraniad STAMP i adfywiad Caernarfon drwy’r celfyddydau. Rydym eisioes wedi ysgrifennu hefyd am gynlluniau tebyg yn Lerpwl ac ym Methyr Tudful. Yn yr erthygl hon, edrychwn ar adfywiad Bae Caerdydd.

Yn y 1830au amlygwyd yr angen am well dociau oherwydd y twf cyflym ym masnach haearn a glo De Cymru, felly fe adeiladwyd nifer ohonynt yng Nghaerdydd. Ar ôl ychydig, tyfodd poblogaeth ardal Tre-biwt (Butetown) o’r dociau, gyda morwyr o nifer o wledydd yn ymgartrefu yn y lle ddaeth i gael ei adnabod fel Tiger Bay. Amcangyfrifir bod pobl o tua 50 o wahanol genhedloedd wedi ymgartrefu yno.

O fewn hanner canrif, Caerdydd oedd y dref fwyaf yng Nghymru, gyda phorthladd oedd yn trin mwy o lo nac unrhyw un arall yn y byd.

Ond bu gostyngiad yn y galw am lo yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, ac erbyn y 1960au doedd prin ddim allforion glo yn gadael dociau Caerdydd. Gyda chau Gweithfeydd Dur East Moors ym 1978 – a’r golled gysylltiedig o dros 3,000 o swyddi – o fewn cyfnod byr o ddwy flynedd roedd Bae Caerdydd wedi ei drawsnewid o ganolfan fasnach ryngwladol brysur i ychydig mwy na “thir gwastraff wedi’i esgeuluso, o ddociau yn dadfeilio a gwastadeddau llaid.” (dolen i cardiffharbour.com)

Gyda diweithdra oedd yn uwch na’r cyfartaledd ac eithrio cymdeithasol ymysg ei phroblemau, roedd ardal dociau Caerdydd wedi gweld gwrthdroad cyfan yn ei ffawd.

Ond cyn hir bu i’r ardal weld newid mawr arall, ac er gwell y tro hwn. Yn Ebrill, 1987 sefydlwyd Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd fel rhan o ‘Urban Development Programme’ Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Erbyn diwedd mis Mawrth, 2000, cafodd y Corfforaeth ei ddirwyn i ben yn ffurfiol wedi cyflawni ei genhadaeth i wella’r ardal. Roedd ei gyflawniadau yn cynnwys 16,750 o swyddi newydd,  4,800 o unedau tai, 695,000 metr sgwâr o ddatblygiadau di-breswyl, 79 hectar o dir agored wedi ei greu, gyda 327 hectar arall wedi ei adennill, a 42 cilomedr o ffyrdd naill ai wedi eu hadeiladu neu wedi eu huwchraddio.

Heddiw, mae Bae Caerdydd yn amhosib i’w adnabod o’r tir gwastraff oedd yn weddill ar ôl y rhyfel diwethaf. Yn rhan ffyniannus o brifddinas Cymru, mae Bae Caerdydd wedi ailddyfeisio ei hun fel lle poblogaidd i dreulio dyddiau allan, ac yn le ardderchog i fyw ac i weithio. Mae nifer o atyniadau a gweithgareddau ar gyfer ymwelwyr, yn cynnwys:

  • Morglawdd Bae Caerdydd – lle anfarwol i gerdded neu i fynd ar gefn beic, gyda golygfeydd anhygoel dros Fae Caerdydd a’r Afon Hafren. Mae hefyd ardal chwarae i blant, parc sglefrio a champfa tu allan.
  • Mainc Y Crocodil Anferthol – teyrnged i’r awdur Roald Dahl.
  • Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd – canolfan anturiaethau dŵr gwyn sydd yn rhan o Bentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd. Mae’r ganolfan yn cynnig dewis ardderchog o weithgareddau, yn cynnwys rafftio dŵr gwyn a padlfyrddio ar eich traed.
  • Canolfan Hanes a Chelfyddydau Tre-biwt, ble gall ymwelwyr ddysgu am hanes mewnfudwyr a lleiafrifoedd yng Nghymru.
  • Gwarchodfa Gwlyptir Bae Caerdydd, sydd yn cynnal ystod eang o rywiogaethau planhigion ac anifeiliaid tra’n cynnig ardal wylio sydd yn ehangu dros y dŵ
  • Yr unig garwsel thema Gymreig yn y byd, sy’n cynnwys cerbydau draig rhyfeddol yn ogystal â’r ceffylau a cherddoriaeth organ arferol.
  • Canolfan Mileniwm Cymru – cartref y celfyddydau perfformio yng Nghymru ac un o brif atyniadau diwylliannol y Deyrnas Unedig.

Tra bo’r defnydd o Fae Caerdydd wedi newid yn gyfan gwbl yn yr amser ers ei adeiladu, pan mae’n dod i newidiadau yn ffawd yr ardal, ni allwn beidio meddwl y byddai hoff ferch Tiger Bay gynt, Y Fonesig  Shirley Bassey yn dweud, o bosib, ei fod fel ychydig o hanes yn ailadrodd. A thra mae adfywiad Caernarfon ar raddfa llawer llai na Bae Caerdydd, rydym yn obeithiol y gwelwn wellhad tebyg i ffawd ein tref ni, yn ddiwylliannol ac yn economaidd.