Mae artist gwobredig o Gaernarfon wedi ei benodi i ddylanwadu ar y timau dylunio sydd yn gweithio ar adfywio y Cei Llechi a Rheilffordd Ucheldir Cymru.

Bydd Bedwyr Williams, artist o fri rhyngwladol sydd yn byw yng Nghaernarfon, yn gweithio yn bennaf ar ddylunio llwybrau o‘r orsaf drenau newydd i safle Gefail yr Ynys, ac o Efail yr Ynys i Gastell Caernarfon.

“Y syniad ydi i gael artist yn dylanwadu ar y llwybrau o gwmpas Caernarfon mewn dull gwreiddiol sydd ddim yn ‘naff’,” eglurodd. “Efallai y gosodwn ddarnau o waith celf i mewn i’r llwybrau; rhoi darnau  o gelf ar hyd y ffordd, o bosib.”

Mae rhesymeg i benodiad Bedwyr, gyda’i angerdd tuag at y celfyddydau yng Nghymru ac, yn benodol, yng Nhaernarfon.

“Dwi’n gweithio yn agos gyda CARN [cydweithfa o artistiaid a gwneuthurwyr lleol] ac yn edrych ymlaen i greu etifeddiaeth iddynt,” meddai. “Fel artist rhyngwladol sydd hefyd yn byw ac yn gweithio yng Nghaernarfon, teimlaf nad yw’r celfyddydau gweledol yn derbyn eu llawn haeddiant yn y dref, y tu ôl i bethau fel cerddoriaeth a barddoniaeth.”

Mae’n mynd ymlaen: “Dylai fod yn hyfyw i fod yn artist yng Nghaernarfon. Mae’n ran hardd o’r wlad, ond ymatebwn i farddoniaeth a chân yn unig – a dwi yn erbyn y syniad y dylai Cymru fod yn ddi-weledol.”

Artist Bedwyr Williams“Mae Caernarfon yn le coeglyd a ffraeth, mae’n fychan ond dylai fod yn sîn ffyniannus a dylai celf fod yn ran o hynny,” meddai. “Dwi am geisio bywiogi y byd celf yn lleol. Mae artistiaid wedi arfer gwneud i bethau ‘edrych yn neis’ – rhoddant gerfluniau i fyny yng nghanol trefi, cerfluniau sydd heb etifeddiaeth , tirnodau yn unig. Dwi am weld beth sy’n bosib ac i’w helpu i gael rhaglen  o arddangosfeydd dros y 6-12 mis nesaf.”

Teimlai Bedwyr nad oes digon o ofodau arddangos da yng Nghaernarfon ar hyn o bryd, ac mae’n alar iddo bod artistiaid gweledol wedi gorfod gostwng i arddangos eu gwaith mewn llyfrgelloedd.

Mae hefyd yn teimlo bod y disgwyliadau o artistiaid gweledol yn wahanol iawn i’n disgwyliadau o feirdd a cherddorion. Pan ofynwyd iddo am artistiaid yn arwain gweithdai celf a chrefft i blant yn ystod y gwyliau ysgol, ymatebodd Bedwyr ei fod “yn digwydd yn aml. Mae’n gwneud artistiaid yn ‘ddefnyddiol’ – diddori plant pobl eraill – ond fyddech chi ddim yn gofyn i fand wneud hynny!”

Dywed Bedwyr fod y celfyddydau gweledol “angen bod i’r gymuned i gyd – ond faint o bobl sydd yn mynd i wrando ar feirdd? Dylai’r holl gelfyddydau fod ar gael i bawb yn ogystal a bod i bawb. Yng Nghaernarfon, mae’r celfyddydau gweledol ar goll. Mae’n rhaid i artistiaid gweledol frwydro am eu lle wrth y bwrdd diwylliannol, ond dwi yn erbyn y syniad y dylai Cymru fod yn ddi-weledol.”

Mae’r effaith yn cael ei deimlo yn arbennig gan artistiaid ifanc lleol. “Mae ein pobl ifanc yn mynd i ffwrdd i brifysgol i astudio celf, ond pan maent yn dod yn ôl dim ond y llyfrgelloedd sydd yma iddynt arddangos eu gwaith,” meddai Bedwyr. “Dwi eisiau helpu artistiaid i ddangos eu gwaith mewn ffyrdd sydd yn fwy dyfeisgar. Darganfod gofodau gwag ar gyfer tafluniadau fideo efallai, darparu digwyddiadau celfyddydol bychan sydd heb gyfyngiadau canolfan gelfyddydol…..ei wneud er mwyn artistiaid a dod a fo i’r gymuned.”

Mae Bedwyr yn teimlo bod “tuedd tuag at y syniad ceidwadol o beth ddylai celf fod. Ond mae’r celfyddydau gweledol yn y Deyrnas Unedig yn sector ddiwylliannol sy’n ffynnu, a dwi eisiau i Gaernarfon fod yn ran o hynny.”

Mae gan gelf y grym i uno, er hynny. “Yn yr Eisteddfod, mae’r pafiliwn celf a chrefft wastad yn boblogaidd. Daw siaradwyr Cymraeg a Saesneg at ei gilydd mewn modd na all cerddoriaeth ei gyflawni.”

Os hoffech wybod mwy am ail-ddatblygu y Cei Llechi, ewch i http://www.caernarfonharbour.org.uk/town_w.htm