Bydd yr ail set o artistiaid preswyl yn gweithio yng Ngefail yr Ynys dros fis Awst a mis Medi. Cerflunydd cyfrwng cymysg yn Arfon, Gwynedd yw Mike Murray a chyfansoddwr cyfoes sy’n chwarae sawl offeryn yn Dutch Uncles, y band o Fanceinion, yw Robin Richards. Cadwch lygad am weithgareddau a pherfformiadau gan ein artistiaid preswyl yn fuan ar ein tudalen Facebook ac ar wefan Stamp.

Bydd y trydydd pâr o artistiaid, sef y rhai olaf, yn gweithio gyda’i gilydd fis Hydref, Cyhoeddir y ddau artist a ddewiswyd fis Medi.

Sesiwn Blasu Gwaith Gofaint

Dydd Mercher 20fed Medi 1yb – 4yp
Dydd Mercher 20fed Medi 6yh – 9yh
Dydd Sul 1af Hydref 10yb – 1yp
Dydd Sul 1af Hydref 2.30yp – 5:30yp

Sesiwn tair awr lle byddwch yn cael profiad o drin dur eirias mewn modd diogel, dan reolaeth, yn gofannu taprau a phwyntiau, yn plygu ac yn cordeddu.

£20 yn cynnwys yr holl ddeunyddiau a chyfarpar. Dros 16 oed

 Gwaith gofaint i Ddechreuwyr

Cwrs 1

Dydd Sadwrn 14eg Hydref 10yb – 1yp
Dydd Sadwrn 21ain Hydref 10yb – 1yp
Dydd Sadwrn 28ain Hydref 10yb – 1yp

Cwrs 2

Dydd Sadwrn 14eg Hydref 2:30yp – 5:30yp
Dydd Sadwrn 21ain Hydref 2:30yp – 5:30yp
Dydd Sadwrn 28ain Hydref 2:30yp – 5:30yp

Cwrs tri sesiwn yn dysgu sgiliau traddodiadol gwaith gofaint a rhoi’r sgiliau hyn ar waith i greu eitemau o’ch dewis chi (o fewn rheswm) y gallwch fynd â nhw adref. Mae’r pris yn cynnwys pâr o fenig gwaith a sbectol ddiogelwch y byddwch chi yn eu cadw.

£75 yn cynnwys yr holl ddeunyddiau a chyfarpar. Dros 16 oed

Gwaith Gofaint Canolradd

Dydd Sadwrn10fed Tachwedd 10yb – 1yp
Dydd Sadwrn 17eg Tachwedd 10yb – 1yp
Dydd Sadwrn 24ain Tachwedd 10yb – 1yp

Ar gyfer y sawl a gwblhaodd cwrs dechreuwyr neu sy’n meddu ar ychydig o brofiad ac am wella eu sgiliau. Byddwch yn mynd oddi yno gydag eitemau a sgiliau a fydd yn eich helpu i wella’ch gwaith gofaint / gwaith metel.

£85 yn cynnwys yr holl ddeunyddiau a chyfarpar. Dros 16 oed