Os ydych wedi byw yng Nghaernarfon am unrhyw gyfnod o amser mae’n siwr eich  bod yn ymwybodol o chwedl ‘hynafol’ Gelert, y ci ‘gladdwyd’ ym Meddgelert yn dilyn ei ladd gan ei feistr, Llywelyn ab Iorwerth.

Ond efallai na wyddoch mai stori wneud yw hon – neu  o leiaf un wedi ei hailysgrifennu – gan landlord tafarn y pentref yn y 18fed ganrif, i helpu i gynyddu twristiaeth yn y pentref.

Yn ôl y chwedl, gadawyd Gelert i warchod mab bach Llywelyn tra roedd y tywysog allan yn hela. Pan ddychwelodd, daeth Llywelyn o hyd i grud y baban wedi ei droi ar ei ben ac wyneb y ci wedi ei orchuddio â gwaed. Wedi gweld y dystiolaeth o’i flaen, penderfynodd mae’n rhaid mai’r ci laddodd y baban. Yn ei drallod, lladdodd y ci, ond i ddarganfod y baban wedyn, yn ddianaf islaw y crud, a chorff gwaedlyd blaidd yn gelain yn y gornel. Rhoddwyd claddedigaeth arwr i Gelert ac mae’r garreg ar ei fedd yn adrodd hanes ei ddewrder.

Mewn gwirionedd, mae fersiynau o’r stori hon yn ymddangos led-led y byd, mewn nifer o wahanol ieithoedd, ac maent yn hŷn na stori Beddgelert. Daw’r fersiwn hynaf hysbys o India, ble mae mongŵs yn lladd neidr yn hytrach na chi yn lladd blaidd. Mae cath yn y fersiwn Persiaidd, tra mae’r arwr yn Malaysia yn arth ddôf a’r dihiryn yn deigr gwyllt. Yn Ffrainc, fel mewn gwledydd eraill yng Ngorllewin Ewrop, ci yw arwr y stori yn amlach na pheidio, a dyma’r fersiwn o’r stori a fabwysiadwyd ym Meddgelert.

Yr athrylith y tu ôl i’r fersiwn Gymreig o’r chwedl oedd un David Pritchard, perchennog Tafarn y Royal Goat ym 1793. Cymerodd chwedl leol am gi o’r enw Cilhart, oedd wedi ei gladdu ym Meddgelert, gan ei chyfuno â stori’r ‘ci arwrol’, a chreu yr enw ‘Gelert’ wrth fynd yn ei flaen. Creodd ef, a phentrefwyr eraill, slabiau llechen wedi eu hysgythru i goffáu ei ddewrder, gan honi hynafiaeth y gofeb.

Fel strategaeth i gynyddu twristiaeth, mae’n rhaid i ni dybio i’r cynllun lwyddo, gan fod Beddgelert heddiw yn leoliad poblogaidd iawn i dwristiaid ac yn le hynod ddymunol i fyw – does ond angen edrych ar brisiau tai yn y pentref i weld hynny!

Yn yr un modd, mae’r un yn wir am enw llawn pentref Llanfairpwll; eto wedi ei lunio gan fusnesau lleol i hybu twristiaeth, strategaeth sydd wedi llwyddo i ddod a dyn a ŵyr faint o dwristiaid i’r pentref dros y blynyddoedd.

Mae’r Brenin Arthur hefyd wedi chwarae ei ran; fel y bu i ni ddarganfod yn ein post blog diweddar, gyda chysylltiadau chwedlonol yr arwr Celtaidd gyda rhanbarth Eryri yn helpu i gefnogi rhifau twristiaeth yn yr ardal, wedi ei gynorthwyo i raddau gan ffilm newydd o Hollywood am anturiaethau Arthur yn cael ei ryddhau ar hyn.

Felly, os oes gennych hen stori deulu am Gaernarfon, neu’r ardal o’i hamgylch, byddwn wrth ein bodd cael clywed amdani, a gwnewch yn siwr eich bod yn ei rhannu gydag ymwelwyr â’r dref os cewch y cyfle, oherwydd mae adrodd stori yn gelfyddyd yr ydym ni fel Cymry yn ei chyflawni yn arbennig o dda ac nid oes unrhywbeth fel stori dda i greu awyrgylch ac ymdeilmlad mewn lle ac i’r ymwelwyr i barhau i dyrru yma!