Yn ei hanterth Merthyr Tudful oedd tref fwyaf Cymru. Ar ei phwynt isaf fe’i trawyd gan gythrwfl economaidd a diweithdra uchel. Ond mae’r ardal wedi ffynnu yn y blynyddoedd diwethaf ar ôl buddsoddi yn y celfyddydau a’r Gymraeg yng Nghanolfan Soar, sef Canolfan Gymraeg sy’n dod â llawer o fanteision cymdeithasol ac economaidd i’r ardal.

Ail-agorodd hen Gapel Soar Merthyr Tudful ei ddrysau yn 2011 o dan yr enw Canolfan Soar, sef Canolfan Gymraeg sy’n darparu amrywiaeth o gyfleoedd i bobl Merthyr Tudful trwy gyfrwng y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth.

Erbyn 2015, pan gyflogwyd cwmni ymchwil arbenigol i asesu effaith economaidd a diwylliannol Canolfan Soar ar y gymuned leol a’r gymuned ehangach, daeth yn amlwg bod y fenter yn darparu llawer o fanteision – yn economaidd a chymdeithasol.

Mae Canolfan Soar yn gartref i theatr gymunedol – Theatr Soar – ac yn gartref i Ganolfan Gymraeg. Mae caffi, ystafelloedd i’w llogi i gynnal cyfarfodydd a hyfforddiant, a swyddfeydd y gall busnesau lleol eu rhentu. Mae Cylch Meithrin hefyd i blant ifanc.

Mae nifer o fudiadau Cymraeg sy’n gwasanaethu cymuned Merthyr Tudful hefyd wedi’u lleoli yng Nghanolfan Soar, gan gynnwys Menter Iaith Merthyr Tudful, Urdd Gobaith Cymru a Cymraeg i Oedolion.

Cyhoeddwyd adroddiad y cwmni ymchwil yng nghanol 2015 ac mae’n ddarllen difyr iawn.

Dadansoddodd y cwmni ymchwil ystod helaeth o ddata, gan gynnwys maint cynulleidfaoedd, gwariant ar nwyddau, gwasanaethau a staff, manylion unrhyw fuddsoddiad pellach a ddenwyd, a manylion yr holl refeniw a grëwyd.

Ar ôl dadansoddi’r holl ddata, roedd yn amlwg bod y Ganolfan wedi cael effaith ryfeddol, nid yn unig ar y gymuned leol ym Merthyr Tudful, ond hefyd ar dde Cymru i gyd.

Yn ystod 2014:

  • Cynhyrchodd Canolfan Soar hyd at £608,537 i’r economi leol
  • Ar draws economi de Cymru, roedd yr effaith economaidd a gynhyrchodd Canolfan Soar gymaint ag £1.3 miliwn
  • Mae’r £173,000 a dderbyniodd Canolfan Soar mewn grantiau wedi cynhyrchu effaith economaidd gros o gymaint â £331,170 ym Merthyr Tudful, a hyd at £709,810 ar draws de Cymru.
  • Mae pob £1 o incwm y mae Canolfan Soar yn ei dderbyn yn werth hyd at £1.91 ym Merthyr Tudful a chymaint â £4.10 o fewn economi de Cymru

Mae’r ganolfan hefyd wedi dod â llawer o fanteision cymdeithasol i Ferthyr Tudful.

Er enghraifft, oherwydd bod Canolfan Soar yn darparu gofod swyddfa fforddiadwy i fusnesau lleol, mae’r ganolfan a’i thenantiaid yn cael effaith gadarnhaol ar y gymuned leol drwy gyflogi pobl leol a thrwy brynu gan gyflenwyr lleol

Drwy integreiddio â chynlluniau adfywio eraill yn lleol, mae datblygiad Canolfan Soar yn golygu fod gan bobl leol le i gyfarfod, dysgu, cymdeithasu ac ymgysylltu ag addysg a’r celfyddydau. Yn hyn o beth, mae Canolfan Soar yn annog pobl yn ôl i ganol y dref, yn ogystal â chryfhau sefyllfa’r Gymraeg mewn ardal lle bu’r iaith ar drai ers canrif (roedd 68.4% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg yng nghyfrifiad 1891, o gymharu â 8.9% yn 2011).

Cenhadaeth Canolfan Soar yw “cyfrannu at adfywio canol tref Merthyr, trwy ddarparu lle i bobl gwrdd, dysgu, cymdeithasu ac ymgysylltu ag addysg a’r celfyddydau. Nod y gweithgareddau a gynhelir yw codi hyder, cynyddu hunan-barch ac ehangu gorwelion drwy gyfrwng y celfyddydau ac addysg gan gyfrannu at ddatblygu’r economi leol.”

Mae’n ymddangos bod Canolfan Soar nid yn unig yn cyflawni ei hamcanion, ond yn mynd yn llawer pellach na hynny gan ddarparu cynifer o fanteision economaidd a chymdeithasol mewn ardal sydd, ers blynyddoedd lawer, wedi cael ei hystyried yn un o rannau mwyaf difreintiedig y Deyrnas Unedig yn economaidd.

A allai’r datblygiad sydd ar y gweill yn y Cei Llechi ddod â manteision tebyg i Gaernarfon a gogledd Cymru? Fe gawn weld, ond rydym yn hyderus y bydd unrhyw effaith y bydd y datblygiad yn ei gael ar yr ardal yn wirioneddol gadarnhaol.