Theatr Bara Caws, o Gaernarfon, sy’n gyfrifol am roi bywyd newydd i’r gyfres gomedi glasurol o’r 1970au a’r 80au sy’n teithio Cymru ar hyn o bryd.

Mae’r cwmni theatr lleol, Theatr Bara Caws, wedi bod ar daith gyda Raslas Bach a Mawr! ers 18 Tachwedd. Dyma gyfres gomedi slapstic glasurol a phoblogaidd sydd wedi cael ei diweddaru ar ôl egwyl o 27 mlynedd.

Mae’r sioe, a gâi ei darlledu’n wreiddiol ar BBC Wales yn yr 1970au cyn symud i S4C yn 1982, wedi cael ei disgrifio fel “ateb Cymru i Laurel a Hardy”. Yn wreiddiol, sêr y gyfres oedd Wynford Ellis Owen a Mici Plwm. Sêr y fersiwn fodern yw Llŷr Evans fel Syr Wynff ap Concord y Bos ac Iwan Charles fel Plwmsan y Twmffat Twp.

Pan ddaeth y sioe i ben yn 1989, arwyddodd dros 15,000 o bobl ddeiseb yn gofyn am gyfres arall. Ar ei hanterth hon oedd un o sioeau teledu mwyaf poblogaidd Cymru ac mae gan lawer atgofion melys iawn amdani felly bydd croeso mawr yn ei haros wrth iddi ddychwelyd er mai ar lwyfan y bydd hynny yn hytrach nag ar y sgrin.

Mae Raslas Bach a Mawr! newydd orffen cyfnod byr yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth. Bydd y daith yn parhau yng Nghaerdydd ac yn ne Cymru am ychydig wythnosau, cyn dychwelyd i’r gogledd i Pontio, Bangor, am dri diwrnod ganol Rhagfyr.

Ond lansiwyd y daith yng Nghaernarfon, lle mae cartref Theatr Bara Caws, a hynny yn Galeri, lle cafodd dderbyniad da yn ystod pedwar diwrnod o’i llwyfannu yno, a ddechreuodd ar 18 Tachwedd.

Menter gymdeithasol yw Galeri, a agorwyd yn 2005. Cynhelir dros 450 o ddigwyddiadau yno bob blwyddyn, sy’n gwerthu rhwng 50 a 70 mil o docynnau’n flynyddol.

Mae Galeri yn cyflogi dros 50 o staff, ac mae ymhlith dim ond 6% o fusnesau yng Ngwynedd sy’n cyflogi mwy na 25 o weithwyr – sy’n golygu bod ei chyfraniad i’r economi leol yn fwy na £2 am bob £1 sy’n cael ei gwario yno. Canfyddiad astudiaeth annibynnol a gynhaliwyd yn 2010 oedd fod Galeri yn cyfrannu bron i £2.5 miliwn y flwyddyn i economi Gwynedd ac Ynys Môn.

Mae Galeri yn fwy na chanolfan i’r celfyddydau; mae’r adeilad yn cynnig gofod swyddfa i gwmnïau lleol eraill hefyd. Mae deuddeg cwmni wedi eu lleoli yno ar hyn o bryd, a rhyngddynt maent yn cyflogi mwy na 80 o bobl.

Mae’r adeilad hefyd yn gartref i Sbarc, prosiect celfyddydol i blant a phobl ifanc sy’n cynnig gwersi drama yn ogystal â hyfforddiant ‘ysgol roc’, gan gynnwys gwersi drymiau, gitâr fas, gitâr drydan a gwersi lleisiol.

Bydd Galeri yn darparu hyd yn oed yn rhagor o gyffro i’r ardal leol o 2018 ymlaen. Yn gynnar yn 2017 bydd gwaith adeiladu yn dechrau ar brosiect i ymestyn Galeri yn gartref i sinema dwy sgrin a fydd yn dangos ffilmiau wrth iddynt gael eu rhyddhau. Mae disgwyl i’r sinema agor yn 2018.

Mae Bara Caws yn gwmni theatr cymunedol sydd wedi bod yn gweithredu ers bron i 40 mlynedd, ac sydd yn llwyfannu o leiaf dri chynhyrchiad y flwyddyn. Mae cwmni Theatr Bara Caws wedi ennill nifer o wobrau byd y theatr ac mae’n elusen gofrestredig sy’n cael ei ariannu’n bennaf â grantiau gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chynghorau Gwynedd, Môn a Chonwy.

I gael rhagor o wybodaeth am Raslas Bach a Mawr! ewch i wefan theatrbaracaws.com.