Mae gwirfoddolwyr Mae Gen i Go’, prosiect i recordio atgofion trigolion Caernarfon sy’n cael ei arwain gan GISDA, wedi cwblhau misoedd o gasglu ac nawr mae’r atgofion cyntaf bron yn barod i weld golau dydd ar ffurf rhwydwaith cyffrous o gwmpas Dre.

Mae’r prosiect wedi ei guradu gan STAMP, mudiad wedi ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru sydd â’r nod o dynnu ynghyd y celfyddydau, gwaith adfywio Caernarfon a thrigolion y dref. Cafodd Mae Gen i Go’ ei gynllunio gan GISDA, elusen sy’n cynnig cymorth a chyfleoedd i bobl ifanc, er mwyn sicrhau bod lleisiau’r ifanc yn cael eu clywed yn ogystal â rhoi cyfle i wirfoddolwyr ifanc deimlo perchnogaeth dros rai o’r prosiectau adfywio sy’n digwydd yng Nghaernarfon.

Cafodd grŵp o wirfoddolwyr eu hyfforddi gan yr ymarferydd theatr Iwan Brioc yn gynharach eleni ac ers hynny mae eu hymdrechion wedi creu casgliad o 30 recordiad gwerthfawr o bobl o bob oed a cefndir yn adrodd eu hatgofion am Caernarfon. Gofynnwyd i’r cyfrannwyr am y sbardunau synhwyraidd – golygfeydd, synau, aroglau, teimladau a blasau – o gwmpas Caernarfon a oedd yn dod ag atgofion am y dref yn ôl iddynt. Mae’r atgofion yn amrywio’n fawr, rhai yn atgofion diweddar a rhai o’r gorffennol pell.

Daeth atgof gan un cyfrannwr – Emyr Parry – am fod yn yr ysgol gydag athrawon oedd, ar y cyfan, yn garedig iawn. Er hynny, roedd ei athrawes Lladin yn un anodd i wneud â hi ac nid oedd ganddi unrhyw ddiddordeb yn Mr Parry am ei fod yn “thick”. Yn ddiweddarach aeth yr athrawes yn fargyfreithwraig, ac fe gofiodd Mr Parry am un diwrnod pan roedd ganddo brynhawn yn rhydd o’r ysgol, aeth draw i’r llys i wylio achos o’r galeri. Dyna lle’r oedd ei gyn athrawes, yn rhinwedd ei swydd fel bargyfreithwraig, yn cael ei thrin yn ddigon anghwrtais gan y barnwr. Ond ni deimlai Mr Parry unrhyw bechod drosti, yn hytrach, roedd yn falch i’w gweld hi yn cael dipyn o flas ei ffisig ei hun ar ôl iddi ei drin o mor wael yn yr ysgol.

Cofiai gyfwelai arall – Tomos Williams – flasu brechdan tiwna am y tro cyntaf, a hynny yn Babs Gwyn. Ac fe ddaeth atgof arall gan Nora am hen fecws yn Snowdon Street lle roedd ffedog y pobydd wedi troi’n wyn gyda’r holl flawd, ac arogl anfarwol y bara pob tro y byddai’n cerdded heibio’r siop.

Dywedodd Daf Owain hanes gafr oedd yn cael ei chadw yng nghaeau’r barics ryw ugain mlynedd yn ôl. Cofia Dafydd ymestyn i weld os oedd yr afr i’w gweld drwy ffenestr ei ystafell ‘molchi ar Stryd Fictoria, gan sylwi nad oedd yr afr yno unrhyw bryd oedd gêm rygbi Cymru ymlaen.

Yn ystod y mis nesaf bydd dwy artist, Menai Rowlands a Rebecca Hardy-Griffiths yn creu côd QR (quick response) arbennig ar gyfer bob un o’r atgofion yma. Mae côd QR yn eich galluogi i glywed pa bynnag wybodaeth sydd ynddo drwy ei sganio gyda ffôn clyfar. Bydd y codau QR yn cael eu gosod yn yr union leoliadau sydd yn yr atgofion, a’r bwriad ydi creu rhwydwaith o atgofion o amgylch y dref, er mwyn i bawb allu eu clywed. Gwyliwch allan am godau Mae Gen i Go’ wedi’u dotio o amgylch Dre yn y misoedd nesaf.

Mae’r crewr ffilmiau Eilir Pierce wedi bod yn dogfennu’r prosiect cyfan ac yn rhyddhau’r deunydd fel cyfres o ffilmiau byr ar y wê i hyrwyddo’r prosiect a dangos yr holl ddatblygiadau. Mae’r ffilmiau byrion yma (tair wedi eu rhyddhau hyd yma) i’w gweld ar sianel YouTube GISDA yn ogystal ag ar wefan STAMP, sef www.stamp.cymru