Dewch i brofi deuddydd o Theatr Synhwyrol, ar yr 20fed-21ain o Ebrill, o dan arweiniad Iwan Brioc.

Mi fydd y profiad AM DDIM ac mi gewch chi ginio am ddim hefyd!

Cychwynnodd Mae Gen i Go’ ym mis Ionawr gyda phenwythnos o hyfforddiant arloesol gan Iwan i’r gwirfoddolwyr ar sut i fynd ati i gasglu’r atgofion gwerthfawr yma.

Dyma flas o’r penwythnos:

Os hoffech gymryd rhan/mynychu’r digwyddiad deuddydd arbennig yma, anfonwch neges i elan.rhys@gisda.co.uk neu ffoniwch 01286 671 153 i gadarnhau – does dim angen bod wedi gwneud unrhyw waith gyda’r prosiect yn barod.

Am fwy o wybodaeth am Iwan Brioc, Theatr Labyrinth: – http://www.iwanbrioc.com/bio/

Os hoffech chi ddarganfod mwy am Mae Gen i Go,  cysylltwch â Elan 01286 671 153.