Gyda 2017 wedi ei dynodi fel ‘Blwyddyn Chwedlau’ gan Croeso Cymru, ni allai’r amseru fod dim gwell ar gyfer rhyddhau ffilm newydd am y Brenin Arthur, a hwnnw wedi ei ffilmio yn rhannol yn Eryri.

Mae adrodd straeon yn hen gelfyddyd Gymreig, ac mae’r straeon am y Brenin Arthur ymhlith yr hynaf adroddwn yn y rhan hwn o’r byd.

Cafodd ffilm Guy Richie, King Arthur: Legend of the Sword, ei ffilmio yn Eryri yn 2015. Saethwyd golygfeydd mewn amryw o leoliadau, gan gynnwys Tryfan a Beddgelert.  Yn y ffilm, sydd i’w ryddhau ym Mai 2017, gwêl y fersiwn hon o stori Arthur ef yn rhedeg strydoedd cefn Londinium gyda’i griw, yn anymwybodol o’i linach.

Mae’n ddigon addas fod y ffilm wedi ei ffilmio yn Eryri, gan fod yr ardal yn gwneud nifer o honiadau ble mae Arthur yn y cwestiwn.

Mae’r Wyddfa ei hun yn leoliad i un o’r chwedlau Arthuraidd lleol mwyaf adnabyddus. Dywedir i Arthur ladd cawr, Ritta, ar lethrau’r mynydd yn dilyn bygythiad gan y cawr i ychwanegu barf y brenin i’w gasgliad.

Dywedir hefyd mai ogof ar frig cyfagos Y Lliwedd yw gorffwysfan marchogion Arthur, fydd yn deffro o’u trymgwsg pan fydd Arthur yn codi i achub Cymru yn ei hawr o angen. Gorweddai Arthur, yn ôl y chwedl, dan arnedd tua Bwlch y Saethau, yn y fan ble lladdwyd ef mewn brwydr.

Nid yw chwedlau bob amser yn cytuno, er hynny: ydi Arthur yn gorwedd dan yr arnedd honno, yntai ydi o yn Afallon ble honnir i’w gorff toredig, ond byw, gael ei gario ar gwch i’w iachau? Mae Enlli yn un o’r lleoliadau all hawlio mai hi yw’r ynys chwedlonol honno, ac mae rhai yn dweud mai mewn tŵr gwydr ar Enlli mae Myrddin yn trigo, yn disgwyl am atgyfodiad ei frenin. Dywedir hefyd mai yn Swnt Enlli y suddodd llong Arthur, felly gellir dadlau fod hyn yn cryfhau achos Enlli ymhellach!

Mae o leiaf dau o lynnoedd Eryri – Llyn Llydaw a Llyn Ogwen – i fod yn gartref i’r Ferch yn y Llyn, ac yn lyn y taflodd Arthur ei gleddyf, Caledfwlch, iddo. Wrth gwrs, ni all fod yn wir i’r ddau ohonynt, felly pa lyn ydoedd?

Mentrwch ymhellach tua de Eryri, ac efallai y gwelwch brint carn ceffyl Arthur ar garreg ger Llyn Barfog, ble ymladdodd yn erbyn anghenfil.

Hefyd, yn ôl y sôn, ffurfiwyd y gromlech yn Cefnamlwch, Pen Llŷn pan daflodd Arthur gapfaen o ben Garn Fadrwn.

Cymaint oedd poblogrwydd Arthur yn ystod y cyfnod canoloesol, a chymaint oedd cryfder ffydd y Cymry y byddai’n codi eto i achub Cymru pan fyddai ei angen fwyaf, nes i Edward l wneud sioe fawr o ail-gladdu yr hynny a elwid yn ‘sgerbydau Arthur a Gwenhwyfar’ yn Abaty Glastonbury, ble canfuwyd hwy gan fynachod ddwy genhedlaeth ynghynt (a hynny, mae’n debyg, ar alwad Harri ll, hen-daid Edward, fu a’i anghydfodau ei hun gyda’r Cymry). Roedd hyn yn amlwg yn weithred o bropaganda, wedi ei chynllunio i fathru ysbryd y Cymry hynny oedd yn credu y byddai brenin y gorffennol a’r dyfodol yn codi eto. Os oedd Arthur yn bodoli neu beidio, roedd yr anwyldeb tuag ato gan Gymru yn ddigon i dric o’r fath fod yn effeithiol.

Mae cymaint o chwedlau am Arthur, ei fywyd, ei weithredoedd a’i gymdeithion sydd wedi eu lleoli yn ein hardal leol, nes ei bod yn anodd gwneud synnwyr ohonynt i gyd. Er mor hudolus oedd Myrddin, byddai ef hyd yn oed wedi cael trafferth rhoi Arthur mewn cymaint o lefydd ar yr un adeg!

Ond, ni waeth faint o wirionedd sydd yn y chwedlau hyn, mae un peth yn glir: mae’r traddodiad Cymreig o adrodd straeon mor boblogaidd heddiw ag y bu erioed, ac os yw hynny yn tynnu mwy o sylw i’n hardal leol gan gynhyrchwyr ffilmiau neu’r ddilynwyr ffilm sydd yn heidio i ymweld â’r lleoliadau ddefnyddiwyd yn y ffilmiau hyn, mae hyn oll yn cryfhau ein economi leol ac felly yn rhywbeth y gallwn elwa ohonno.

Felly hir oes i Arthur ddywedwn ni, ac iddo barhau i ofalu am fuddiannau Cymru am lawer cenhedlaeth i ddod!