Mae adrodd straeon yn draddodiad hynafol yng Nghymru, ac yn gelfyddyd yr ydym yn ei chyflawni yn fedrus! 

Yn y dyddiau pan nad oedd y sgiliau o allu darllen ac ysgrifennu yn gyffredin i bawb, roedd y grefft o adrodd stori yn werthfawr. Nid yn unig gan ei fod yn ddull o gadw hanes yn fyw (er bod storïau wedi eu newid yn sylweddol dros flynyddoedd maith o’u hail-adrodd); roedd hefyd yn ffordd o rannu newyddion cyn dyfodiad papurau newydd.

Mae gennym yn y rhan yma o Gymru rai straeon diddorol yr ydym yn dal yn gyfarwydd â hwy hyd heddiw. Mae, yng Nghaernarfon yn arbennig, dwy hen chwedl y mae’r mwyafrif ohonom wedi eu clywed mewn un ffurf neu’i gilydd. Mae’r ddwy yn gysylltiedig â’r castell.

Yn y gyntaf, gwelodd ymerawdwr Rhufeinig, Magnus Maximus (Macsen Wledig yn lleol), castell mewn breuddwyd yn y lle adnabyddwn fel Caernarfon heddiw. Gyrrodd ddynion allan i chwilio’r byd am y castell o’i freuddwyd ac, ymhen yr hir a’r hwyr, darganfu’r castell – ac ynddo, forwyn hardd oedd hefyd wedi ymddangos yn y freuddwyd. Priododd Macsen hi gan ddod yn frenin ar y Brythoniaid. Gorchmynnodd Elen, ei wraig (wedi ei Seisnigeiddio i Helen), adeiladu ffyrdd ledled Cymru, ac o’i henw hi cawsom y ffordd hynafol, Sarn Helen.

Pan adeiladodd Edward I Castell Caernarfon, dywedir i’w gynllun gael ei ysbrydoli gan freuddwyd Macsen Wledig yn ogystal a chyfeiriad at waliau Caergystennin.

Mae’r stori arall sy’n gysylltiedig gyda Chastell Caernarfon yn ymwneud â genedigaeth mab Edward, Edward o Gaernarfon, a gafodd ei goroni yn Dywysog Cymru ym 1301. Yn ôl y chwedl, gwyddai Edward na fyddai’r Cymry yn derbyn unrhyw Dywysog Cymru oedd yn siaradwr-Saesneg, nad oedd ychwaith wedi ei eni yng Nghymru, ac felly rhoddodd ‘sbin’ ar y mater drwy sicrhau bod ei fab yn cael ei eni yn y castell. Gan mai Ffrangeg oedd iaith y llys a’r bonedd yn y cyfnod hwnnw, a Saesneg yn cael ei siarad gan y werin, roedd yn amlwg y byddai’n anhebygol i’r plentyn dyfu i fyny yn siarad Saesneg ac felly gellid dweud bod dymuniadau y boblogaeth leol wedi eu gwireddu.

Dyma ond dwy o straeon Caernarfon sydd wedi pasio i lawr drwy’r cenhedlaethau – mae nifer o rai eraill.

Ychydig ymhellach, ond yn dal yn lleol, mae nifer annirnadwy o chwedlau a hanesion wedi eu lleoli yn Eryri. Adroddodd y croniclydd 12fed ganrif, Giraldus Cambrensis (Gerallt Gymro) rai chwedlau lleol rhyfeddol yn ei lyfr, ‘Taith Drwy Gymru’.

Yn y gyntaf, adroddai am bobl leol yn disgrifio llyn yn y mynyddoedd ble roedd ynys oedd yn arnofio ac yn symud o gwmpas, “yn aml yn cael ei gyrru i’r ochr arall gan rym y gwyntoedd”. Dywed bod bugeiliaid yn synnu wrth weld y preiddiau oedd yn bwydo yno yn cael eu cludo i ffwrdd i bellteroedd y llyn”.

Yn yr ail, sef stori am lyn arall cyfagos, dywedodd bod yno dri math gwahanol o bysgodyn sef llysywod, brithyll a physgodyn garw, yr oll ag un lygad, y lygad dde yno ond heb yr un chwith”.

Ac yn y drydedd stori, siaradai am eryr oedd ar bob pumed gwledd-ddydd yn clwydo ar garreg benodol, “yn gobeithio bodloni ei newyn drwy gyrff dynion meirw, oherwydd credai bod rhyfel am dorri allan ar y diwrnod hwnnw. Mae tyllau ar y garreg ble safai sydd wedi eu tyllu yn daclus bron drwy’r garreg, gan mai yma mae’r eryr yn glanhau a hogi ei big”.

Wyddoch chi am unrhyw straeon am Gaernarfon sydd wedi eu pasio i lawr drwy eich teulu na wyddai eraill amdanynt? Os oes, byddwn wrth ein bodd clywed amdanynt – cysylltwch â ni os ydych am eu rhannu os gwelwch yn dda!